- April 2021 Newsletter 8th April 2021
- March 2021 Newsletter 8th March 2021
- February 2021 Newsletter 1st February 2021
Rap Rheolau
Rheolau, rheolau,
Rheolau o hyd,
Rheolau, rheolau, o’m campus i gyd.
Peidiwch ymladd yn yr ysgol,
Peidiwch neidio dros y llwyn,
Peidiwch tynnu llun a beiro,
Peidiwch meiddio pigo’ch trwyn.
Peidiwch bwyta dim cyn cinio,
Peidiwch rholio yn y mwd,
Peidiwch rhedeg yn y dosbarth,
Peidiwch cuddio dan eich hwd.
Peidiwch meiddio taflu sbwriel,
Peidiwch poeri ar y llawr,
Peidiwch neidio i’r pwll nofio,
Peidiwch gwneud graffiti mawr.
Peidiwch gweiddi yn y gampfa,
Peidiwch dwdlan ar eich llyfrau,
A peidiwch, peidiwch, byth, da chi
A THORRI Y RHEOLAU!
Aled Richards